Gyda'n gilydd, does neb yn unig

Gyda'n gilydd, does neb yn unig

Become the
first donor!

  • About

Eleni, rydyn ni eisiau creu newid. Rydyn ni’n galw ar bawb i ddod at ei gilydd a chefnogi Partneriaeth Age Cymru, sy’n cynnwys Age Cymru, Age Cymru Dyfed, Age Cymru Gwent, Age Cymru Gwynedd a Môn, Age Cymru Powys ac Age Cymru West Glamorgan, er mwyn darparu cysur, cyfeillgarwch a llawenydd i bobl sydd angen ein help.

Drwy ein gwasanaethau cyngor, rydyn ni’n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i bobl hŷn unig er mwyn eu helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd.

Drwy ein gwasanaethau cyfeillgarwch, rydyn ni’n cynnig cysylltiadau, clust i wrando a llais cyfeillgar i bobl hŷn, unig.

Wrth weithio gyda’n gilydd, gallwn greu newid.

Mae angen i bethau newid, a dyna pam rydyn ni angen eich cefnogaeth.  Mae gwasanaethau Partneriaeth Age Cymru yn achubiaeth i filoedd o bobl hŷn sydd heb unrhyw gysylltiad â’r byd tu allan.

Ni allwn gyflawni hyn ar ein pen ein hun. Mae angen eich cefnogaeth ar Bartneriaeth Age Cymru er mwyn creu newid go iawn i bobl hŷn, unig yn ystod cyfnod anodd.

Wrth ddod at ein gilydd dros y Nadolig, gallwn ni wneud gwahaniaeth go iawn i bobl hŷn unig.